Ein Datblygiadau
Mae adeiladu tai fforddiadwy newydd yn ein cymunedau yn un o’n blaenoriaethau corfforaethol i sicrhau ein bod yn gallu darparu man cynnes a diogel i unigolion a theuluoedd, sy’n caniatáu iddynt dyfu a ffynnu.
Mae ein datblygiadau’n cynnig cartrefi o bob math, o anghenion cyffredinol i gynlluniau byw â chymorth a chartrefi wedi’u haddasu. Bydd ein cartrefi newydd nid yn unig yn fforddiadwy, ond yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd, gyda chynlluniau newydd yn ystyried sut i leihau ein hôl troed carbon, yn ogystal â sut gall y cartrefi hyn barhau i fod yn rhai carbon niwtral ar ôl eu cwblhau.