Diffyg Atgyweirio Eiddo a Hawliadau

Beth yw diffyg atgyweirio?

Os ydych chi o’r farn bod angen gwaith trwsio ar eich cartref, cysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch – gallwch wneud hyn trwy ffonio 0345 260 2633 neu e-bostio info@cynon-taf.org.uk. Rydym am weithio gyda chi i wneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel i chi a’ch teulu.

Beth os oes diffyg atgyweirio ar eich cartref?

Os nad ydym yn cyflawni ein cyfrifoldeb ac yn cwblhau gwaith trwsio o fewn amser rhesymol, gellid dweud bod diffyg atgyweirio ar eich cartref. Os dyma yw’r sefyllfa yn eich barn chi, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl ar 0345 260 2633 a byddwn yn trefnu ymweld â chi i’w drafod ymhellach.

Rydym ni yma i helpu

Mae’n bwysig i ni eich bod chi’n hapus gyda’r gwasanaethau a ddarparwn. Gwnawn bopeth yn ein gallu i’ch cynorthwyo chi a gofalu am eich cartref. Os ydych chi’n anhapus ag unrhyw ran o’n gwasanaeth trwsio, argymhellwn eich bod yn siarad â ni fel y gallwn gywiro’r broblem. Os na fydd hynny’n gweithio, gallwch wneud cwyn ffurfiol trwy e-bostio complaints@cynon-taf.org.uk

Cwmnïau rheoli hawliadau

Efallai bod cwmnïau rheoli hawliadau wedi cysylltu â chi ynghylch gwneud hawliad yn ein herbyn oherwydd diffyg atgyweirio. Efallai byddant yn gofyn a hoffech chi iddynt eich cynrychioli chi yn y llys er mwyn cael iawndal gennym.

Hoffem roi gwybod i chi nad yw’r cwmnïau hyn yn ddiffuant, o bosibl. Efallai na fyddant yn rhoi’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch cyn i chi gytuno i weithio gyda nhw, a gallent achosi risg ariannol difrifol i chi.

Rydym ni yma i’ch cefnogi chi

Fel eich landlord, rydym ni yma i’ch cefnogi chi a gweithio gyda chi i ofalu am eich cartref. Rydym am eich amddiffyn rhag cwmnïau rheoli hawliadau ac esbonio’r ffactorau a’r risgiau y mae angen i chi eu hystyried os ydych chi’n meddwl am gyflwyno hawliad.
Hoffem drafod unrhyw broblemau sydd gennych yn eich cartref cyn bod unrhyw gamau’n cael eu cymryd. Bydd eich gwaith trwsio’n cael ei gwblhau’n gynt os siaradwch chi â ni, oherwydd gall y broses diffyg atgyweirio gymryd amser hir.
Y peth pwysicaf i ni yw bod eich cartref yn ddiogel i chi a’ch teulu.

Beth yw risgiau defnyddio cwmnïau rheoli hawliadau?

Mae’n effeithio ar wasanaethau eraill rydym ni’n eu darparu

Mae amddiffyn achosion diffyg atgyweirio yn ddrud iawn. Mae unrhyw arian rydym ni’n ei wario ar yr hawliadau hyn yn mynd ag arian oddi wrth waith trwsio, gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio a gwasanaethau cymorth hanfodol.

Beth sy’n digwydd os bydda’ i’n penderfynu peidio â gwneud hawliad am ddiffyg atgyweirio?

Ein hargymhelliad cryf ni yw eich bod chi ddim yn bwrw ymlaen â hawliad am ddiffyg atgyweirio ond yn gweithio gyda ni i drwsio’ch cartref.
Byddwn ni’n trefnu bod syrfëwr, sydd wedi cael hyfforddiant ar asesu diffyg atgyweirio, yn cynnal arolwg yn eich cartref. Yn ystod yr arolwg, bydd yn gwneud nodyn o unrhyw waith trwsio sydd ei angen ar eich cartref ac yn cytuno ar ffordd ymlaen. Os gwelir bod angen gwaith trwsio, byddwn yn trefnu ymweld â’ch cartref a gwneud y gwaith.

Cymorth arall

Mae llawer o gyngor diduedd ar gael yn rhad ac am ddim os nad ydych chi’n hapus â’r gwasanaeth a gawsoch gennym ni neu os ydych chi’n poeni am safon eich cartref. Mae’r rhain yn cynnwys:

Os nad ydych chi’n hapus â’n hymateb ac rydych chi wedi gwneud cwyn ffurfiol, mae hawl gennych siarad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a fydd yn ymchwilio ymhellach i’ch cwyn.

Byddwch yn ofalus

Mae ein holl staff, yn enwedig ein syrfewyr a’n staff cynnal a chadw, yn cario ID. Gofynnwch am hwn pan fyddant yn ymweld â chi. Gallwch hefyd gadarnhau pwy yw’r aelod staff trwy ein ffonio ar 0345 260 2633.

Os cewch chi ymwelydd â’ch cartref ac nid ydych yn siŵr pwy ydyw, ffoniwch yr Heddlu ar 101.

Costau cudd

Gall cwmnïau rheoli hawliadau ddweud wrthych eu bod yn gweithredu ar sail ‘dim ennill, dim ffi’. Gallai hyn fod yn wir, ond rydym wedi gweld enghreifftiau o denantiaid sydd wedi wynebu miloedd o bunnoedd o ddyled o ganlyniad i lofnodi cytundebau.

Ffioedd os byddwch chi’n newid eich meddwl

Mae tenantiaid wedi dweud wrthym eu bod wedi cael eu rhoi dan bwysau ac wedi methu atal hawliad pan fyddant wedi newid eu meddwl. Efallai hefyd na fydd y cwmnïau hyn yn esbonio y gallech gael gorchymyn i dalu ein costau cyfreithiol, a allai fod yn filoedd o bunnoedd, os bydd eich achos yn mynd i’r llys ond yn cael ei wrthod.

Mae’n cymryd amser hir i’w ddatrys

Mae rhai hawliadau’n cymryd blynyddoedd i’w datrys, ac efallai bydd yn rhaid i chi ymddangos yn y llys i roi tystiolaeth fel rhan o’r broses, a all beri gofid.

Gallech dorri’ch contract

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y rhan fwyaf o gwmnïau sy’n gweithredu ar eich rhan yn eich cynghori i beidio â’n gadael ni i mewn i’ch cartref i wneud unrhyw waith trwsio. Bydd hyn yn golygu eich bod yn torri’ch contract gyda ni.