Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Fel landlord cymdeithasol cyfrifol, rydym yn cydnabod bod ein gweithwyr, tenantiaid, cleientiaid, Aelodau Bwrdd a chontractwyr yn ganolog i’n llwyddiant a’n bod yn gweithio mewn cymdeithas amrywiol. Dyma pam rydym yn cydnabod mai ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod cyfle cyfartal gan bob unigolyn.

Rydym yn ymrwymo i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant clir ym mhopeth a wnawn, i sicrhau ein bod yn gallu:

  • dileu gwahaniaethu,
  • datblygu cyfle cyfartal,
  • meithrin perthnasoedd da rhwng gwahanol bobl,
  • mynd i’r afael â rhagfarn, a
  • hybu dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym am wneud yn siŵr bod ein gweithwyr, Aelodau Bwrdd, ymgynghorwyr, contractwyr, gwirfoddolwyr, tenantiaid cysylltiedig a gweithwyr asiantaeth i gyd yn adlewyrchu’r cymunedau rydym ni’n gweithio ynddynt.

Angerdd

Mae pob un ohonom yn poeni’n angerddol am yr hyn a wnawn, a sut mae’n cyfrannu at ein pwrpas a’n gweledigaeth

Uniondeb

Rydym yn cyflawni ein rolau gyda didwylledd a gonestrwydd, gan anelu bob amser at wneud y peth iawn

Parch

Rydym yn trin pawb â gwerth cyfartal a heb farn

Rhagoriaeth

Rydyn ni bob amser yn gwneud ein gorau glas, gan groesawu syniadau newydd, tra'n dal gafael ar y pethau sy'n gweithio

Cyfrifoldeb

Rydyn ni'n meddwl pethau drwodd, yn atebol am ein gweithredoedd, ac rydyn ni'n unioni pethau os ydyn ni'n gwneud pethau'n anghywir