Gweithio i ni

Sefydliad pobl ydym ni. Fel sefydliad, rydym am i’n gweithwyr fod yn angerddol am ddarparu gwasanaethau gwych i’n cymunedau, gan wneud yn siŵr bod ein tenantiaid yn gwybod at bwy i droi am gymorth; dyma sy’n ein cymell i fod y gorau y gallwn fod.

Rydym am fod yn gyflogwr o ddewis i’r ardal trwy fod yn fwy na chyflogwr da yn unig; rydym yn gweithio i roi cyfle i’n timau dyfu a datblygu yn eu rôl, i archwilio beth sy’n bosibl er mwyn adeiladau sgiliau, partneriaethau a dylanwad. Hefyd, rydym yn bartner sy’n cael ei barchu yn ein rhanbarth ac ar draws Cymru.

Nid yn unig rydym ni’n darparu cartrefi diogel i bob aelod o’r gymuned yn Rhondda Cynon Taf, ac yn parhau i gynyddu’n stoc tai er mwyn cynnig mwy i’r ardal. Rydym ni hefyd yn cynnig gwasanaethau i helpu gwella’u hiechyd a’u lles, i sicrhau bod ein tenantiaid, eu teuluoedd, a’r gymuned ehangach yn gallu darganfod eu potensial a byw bywyd i’r eithaf.

Rydym yn sefydliad cyfrifol ac yn gwybod bod rhaid i ni chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae ein his-gwmni, Down to Zero, yn canolbwyntio ar ddal carbon trwy fentrau cymdeithasol fel perllannau, rhandiroedd, plannu coed a chynhyrchu mêl o gychod gwenyn, gyda phob agwedd yn mynd ati i gynnwys tenantiaid, ein gweithwyr, cymunedau lleol a phartneriaid i allu archwilio ac ymestyn cyrhaeddiad y prosiect.

Beth allwn ni ei gynnig

  • Man diogel i weithio gydag awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar
  • Gweithio ystwyth gyda chloc ymddiriedaeth, yn caniatáu i chi reoli’ch amser eich hun
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol (yn codi yn gynyddrannol i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth)
  • 8 gŵyl banc a 4 diwrnod ategol
  • 20 diwrnod o absenoldeb ar gyfer diogelwch
  • Cynllun absenoldeb mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni a rennir estynedig
  • Cynllun absenoldeb salwch estynedig
  • Cynllun atgyfeirio ar gyfer Iechyd Galwedigaethol
  • Cynllun pensiwn hael
  • Pecyn gofal iechyd, gan gynnwys rhaglen cymorth i weithwyr (mae ymuno’n ddewisol)
  • Cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd datblygu parhaus
  • Aelodaeth gorfforaethol o gampfa, am bris gostyngol
  • System gyfeillio ar gyfer lles

Gallwch ddarllen rhagor am Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf ar ein tudalen Amdanom Ni.

Rydym yn ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar bob lefel ar draws y sefydliad ac rydym yn rhan o’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Rydym yn dal marc uchel ei barch Ansawdd mewn Cydraddoldeb QED Tai Pawb ac rydym wedi ymrwymo i Gwneud nid Dweud. Mae gennym Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i weithwyr, sy’n ffynnu. I ddysgu rhagor am ein gwaith yn y maes hwn, cliciwch yma.

Nid ydym yn gorfodi cod gwisg gan ein bod yn credu mewn recriwtio unigolion ar sail yr hyn y gallant ei gyflawni yn hytrach nag ar sail eu golwg.

Beth sydd gan ein tenantiaid i’w ddweud

Gwrandewch ar ein tenantiaid yn sôn am eu profiad o fod yn denant gyda Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf.

Pwy ddylai wneud cais?

Os ydych chi’n angerddol am yr hyn rydych chi’n ei wneud ac am deimlo’ch bod yn rhan o sefydliad sy’n ymdrechu nid dim ond i fod y gorau ond i roi o’i orau, yna efallai mai Cynon Taf yw’r lle ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa. Rydym am i’n gweithwyr ffynnu mewn amgylchedd y mae ymddiriedaeth yn sail iddo, a gobeithiwn eich croesawu chi i’n sefydliad.

Would you like to work with us?

We currently have a vacancy for:

Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac os ydych yn anabl, byddwch yn sicr o gael cyfweliad os ydych yn bodloni amodau sylfaenol y swydd.

Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd.

Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac os ydych yn anabl, byddwch yn sicr o gael cyfweliad os ydych yn bodloni amodau sylfaenol y swydd.