Beth yw ystyr Ffit i Fod yn Gartref

Ers 1 Rhagfyr 2022, fel rhan o Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru, mae’n rhaid i ni nawr sicrhau bod ein holl eiddo yn ffit i fod yn gartref o ddechrau eich contract a thrwy gydol eich cyfnod gyda ni. Mae hyn yn golygu mai’ch cartref chi yw’r lle gorau posibl i chi fyw a ffynnu.

Rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein holl eiddo yn cynnwys:

  • Presenoldeb larymau mwg sy’n gweithio
  • Presenoldeb synwyryddion carbon monocsid sy’n gweithio
  • Arolygu a phrofi gosodiadau trydan

Rhaid i’n heiddo gyd-fynd â Safonau Ansawdd Tai Cymru yn barod, ond mae gennym 29 o feysydd ychwanegol bellach i’ch atal chi rhag byw mewn amodau anaddas, gan gynnwys pethau fel tamp a llwydni neu dwf ffwngaidd, ynghyd ag amlygiad i’r oerfel.

Caiff tamp a llwydni eu hachosi gan damprwydd a/neu leithder sywleddol, y mae’r canlynol yn effeithio arnynt:

  • Llai o awyru
  • Mwy o leithder, yn enwedig uwchlaw 70%
  • Tymereddau cynhesach dan do, yn enwedig yn y gaeaf

Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gyda chi i geisio atal tamp a/neu lwydni rhag ymddangos yn eich cartref fel nad yw’n gwaethygu. Mae angen i chi ein ffonio ni ar 0345 260 2633 neu e-bostiwch ein tîm trwsio ar [email protected]


Beth allwch chi gymryd cyfrifoldeb amdano

  • Mae cadw caead ar sosbenni wrth goginio yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon gan fod llai o wres yn cael ei golli ac mae hefyd yn lleihau faint o wlybaniaeth sy’n cael ei ryddhau i’r aer ar ffurf stêm. Os oes gennych lwfer neu wyntyll echdynnu yn eich cegin, sicrhewch eich bod yn ei ddefnyddio pan fyddwch yn coginio. 10c yr wythnos yw cost rhedeg y wyntyll hon.
  • Defnyddiwch eich ystafell ymolchi i sychu dillad, trwy gau’r drws ac agor y ffenestri.
  • Os oes gennych beiriant sychu dillad, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i awyru’n gywir, oherwydd gall un llwyth ryddhau dau litr o ddŵr i’r aer ar ffurf stêm. Trwy sicrhau bod eich peiriant yn awyru’r tu allan i’ch cartref, gallwch atal y gwlybaniaeth hwn rhag cyddwyso ar waliau oer
  • Eich cegin yw un o’r ystafelloedd sy’n cyfrannu fwyaf at y gwlybaniaeth yn eich cartref. Wrth goginio bwyd, dylech sicrhau bod y drysau ar gau i atal yr aer gwlyb rhag mynd i ystafelloedd oerach, lle bydd yn gwneud i anwedd ffurfio
  • Os ydych chi’n cael bath neu gawod boeth, bydd stêm yn ffurfio yn eich ystafell ymolchi a gall ddianc i weddill y tŷ os bydd y drysau ar agor, ac achosi tamp mewn ystafelloedd eraill. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cau drws eich ystafell ymolchi wrth ddefnyddio dŵr poeth i gadw cymaint o wlybaniaeth yn yr ystafell ymolchi â phosibl
  • Bydd defnyddio mat o faint gweddol yn helpu i osgoi gwlychu llawr yr ystafell ymolchi wrth i chi gamu allan o’r bath neu’r gawod. Bydd y mat yn helpu i amsugno rhywfaint o’r gwlybaniaeth, gan helpu i leihau’r anwedd yn yr ystafell
  • Gwnewch yn siŵr bod eich dodrefn o leiaf 5cm i ffwrdd o’r waliau fel y gall yr aer gylchredeg yn haws. Mae gosod wardrobau yn erbyn waliau mewnol yn golygu y bydd y tymheredd yn wardrob ychydig yn gynhesach ac yn helpu i leihau problemau tamp a llwydni.
  • Os nad oes gennych wyntyll echdynnu yn eich cegin neu eich ystafell ymolchi, ceisiwch gadw rheolaeth ar wlybaniaeth trwy sychu arwynebau oer ar ôl i chi goginio neu ymolchi. Gall hyn helpu i leihau faint o wlybaniaeth a all ffurfio a bydd hefyd yn lleihau’r risg y gall llwydni dyfu

Nodi’r diffyg atgyweirio

Os oes diffyg atgyweirio yn eich cartref, bydd rhoi mwy o wybodaeth i ni ar y cychwyn yn golygu y byddwn yn gallu ceisio’i ddatrys cyn gynted ag y gallwn.

Dyma enghreifftiau o’r hyn y mae angen i ni ei wybod:

  • A yw eich cartref yn ansefydlog? A ydych wedi sylwi ar unrhyw graciau mawr neu a oes rhywfaint o lethr yn eich llawr o gwbl?
  • A oes problem ddifrifol gyda thamp? A yw hyn oherwydd diffyg awyru neu a ydych chi’n cael problemau gyda’ch system wresogi?
  • A ydych chi wedi cael trafferth â’r cyflenwad dŵr poeth ac oer i’ch cartref? A yw’n effeithio ar eich gallu i olchi dillad neu olchi llestri?
  • A ydych chi’n cael problem gyda draenio eich sinciau a’ch toiled?

Pan fydd angen trwsio eich cartref, mae’n rhaid i ni roi o leiaf 24 awr o rybudd i chi a bydd ein hymweliad o fewn oriau rhesymol, fel y gallwn gyd-fynd â’ch ymrwymiadau chi.

Os gallwch wynto nwy yn eich eiddo, rydym ni’n awgrymu eich bod yn ffonio 0800 111 999 ar frys ac yna’n rhoi gwybod i ni am y broblem.

A oes unrhyw eithriadau?

Fel eich landlord, ni sy’n gyfrifol am drwsio llawer o broblemau yn eich cartref, ond mae eithriadau, gan gynnwys:

  • Problemau wedi’u hachosi gan ymddygiad y tenant – sy’n golygu eich bod chi neu denant arall wedi ymddwyn yn anghyfrifol neu’n anghyfreithlon, ac nid yw’n ddyletswydd arnom ni i ddatrys unrhyw broblemau a achoswyd gan eich ymddygiad
  • Mae digwyddiadau fel tanau, stormydd a llifogydd sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni’n llwyr yn golygu y byddwn yn helpu i gywiro’r difrod mae’r digwyddiadau hyn yn ei achosi, ond nid yw hynny’n ddiffyg atgyweirio o dan reoliadau Ffit i Fod yn Gartref
Ni fyddwn yn trwsio eich eiddo na dodrefn a oedd yn eiddo i unrhyw denantiaid blaenorol nad oeddent wedi’u cynnwys yn rhestr eiddo a ddarparwyd ar ddechrau eich contract gyda ni