Beth yw Deddf Rhentu Cartrefi Cymru?
Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.
Ar 1 Rhagfyr 2022, newidiodd Deddf Rhentu Cartrefi Cymru’r ffordd y mae’r holl landlordiaid yng Nghymru yn rhentu eu heiddo, gan wella’r ffordd rydym ni’n rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.
Pwy mae’r gyfraith newydd yn effeithio arnynt?
Bydd pob tenant tai cymdeithasol yn gweld rhai newidiadau:
- yn y ffordd o ddarparu eich contractau
- yn y ffordd o gynnal a chadw eich cartref
- yn y ffordd rydych chi’n cyfathrebu â ni (eich landlord)
O dan y ddeddf newydd, mae tenantiaid a thrwyddedeion yn cael eu galw bellach yn ddeiliaid contract. Mae contractau meddiannaeth wedi disodli cytundebau tenantiaeth.
Bydd rhentu’n haws o dan y gyfraith newydd a bydd yn rhoi mwy o sicrwydd i chi.
Fel landlord tai cymdeithasol, bydd angen i ni:
- gydymffurfio â’r ddeddf newydd
- gwneud y diweddariadau angenrheidiol i’n heiddo a’n gwaith papur
Gallwch ddarllen am y Ddeddf a’i newidiadau i’r sector tai trwy glicio yma.