Pwy ydym ni
Mae Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf (CTCHG) wedi bod ar waith ers 2008, yn sgil uno Cymdeithas Tai Cynon Taf a Chymdeithas Tai Pontypridd a’r Cylch. Mae’r Grŵp wedi’i leoli yn ganolog yn Rhondda Cynon Taf.
Rydym yn falch o’n cymuned a’i hanes, ynghyd ag ymrwymiad hirhoedlog ein sefydliad i ddarparu tai a chymorth i’r bobl a’r cymunedau rydym ni’n gweithio ynddyn nhw.
Sefydliad pobl ydym ni, yn angerddol am ddarparu gwasanaethau a chymorth gwych, bod yn gyflogwr da, a bod yn bartner uchel ei barch yn ein rhanbarth ac ar draws Cymru. Cliciwch yma i ddeall pam ddylech chi weithio gyda ni.
Mae Asiantaeth Gofal a Thrwsio Cwm Taf uchel ei pharch yn is-gwmni i’r Grŵp ac mae’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn neu anabl sy’n byw mewn tai preifat ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae Down To Zero, yn canolbwyntio ar liniaru’r effaith ar yr hinsawdd, gan fynd i’r afael ag ôl troed carbon y Grŵp a chynnig hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli a buddion uniongyrchol yn ôl i’n tenantiaid a’n cymunedau ehangach.
Ein Gweledigaeth
Bod yn rhan o gymunedau hapus, iach a ffyniannus y cymoedd, lle caiff pawb gyfle i fyw’n dda.
Ein Diben
Darparu tai a chymorth gwych i’r bobl sy’n creu ein cymunedau.
Ein Gwerthoedd
Angerdd - Rydym ni’n angerddol am yr hyn rydym ni’n ei wneud,
Parch - Rydym ni’n trin pawb gyda pharch,
Cyfrifoldeb - Rydym ni’n cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd,
Uniondeb - Rydym ni’n cyflawni ein rolau gyda gonestrwydd ac yn ddiffuant
Rhagoriaeth - Rydym ni’n gwneud ein gorau glas bob amser.
Ein Cynllun Corfforaethol
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn amlinellu ein chwe blaenoriaeth gyffredinol, sy’n ganolog i’r hyn rydym ni am ei gyflawni fel sefydliad:
- Cefnogi cymunedau gwydn
- Cyflwyno gwasanaethau rhagorol
- Cynyddu ein cyflenwad o dai
- Diogelu ein cynaliadwyedd ariannol
- Buddsoddi yn ein llywodraethiant, ein pobl a’n systemau
- Llunio partneriaeth ag eraill i gyflawni nodau cyffredin
Hefyd, mae themâu sy’n gyffredin i bopeth rydym ni’n ei wneud – gwerth am arian, cydraddoldeb a thegwch, lliniaru’r effaith ar yr hinsawdd – ac yn fwy diweddar, edrych ar bopeth o safbwynt costau byw.
Gallwch ddarllen ein cynllun corfforaethol a’n hadroddiad blynyddol yma here
Rydym yn landlord cymdeithasol cofrestredig.
Rydym yn rheoli 1850 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf.
Rydym yn frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau lleol.
Ein Cartrefi
Mae gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth ag eraill yn bwysig iawn i ni fel grŵp tai yn y gymuned. Darparwn dros 1880 o gartrefi i’w rhentu, 1480 ohonynt at anghenion cyffredinol a 114 ohonynt i bobl hŷn, wedi’u clystyru ar draws pedwar cynllun.
Mae’r cartrefi rydym ni’n berchen arnynt ac yn eu rheoli yn amrywio, o rai newydd i gartrefi sy’n dyddio cyn 1910. Gyda phartneriaid, rydym yn darparu dwy loches a byw’n annibynnol i bobl ag anableddau dysgu.
1458 Anghenion Cyffredinol
165 Tai Gwarchod
31 Cartrefi wedi'u Haddasu
114 Cartrefi Pobl Hŷn
81 Tai â Chymorth
1 Ystafell wely
2 Ystafelloedd gwely
3 Ystafelloedd gwely
4 Ystafelloedd gwely
5 Ystafelloedd gwely
7+ Ystafelloedd gwely
Ein Cartrefi
Mae gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth ag eraill yn bwysig iawn i ni fel grŵp tai yn y gymuned. Darparwn dros 1880 o gartrefi i’w rhentu, 1480 ohonynt at anghenion cyffredinol a 114 ohonynt i bobl hŷn, wedi’u clystyru ar draws pedwar cynllun.
Mae’r cartrefi rydym ni’n berchen arnynt ac yn eu rheoli yn amrywio, o rai newydd i gartrefi sy’n dyddio cyn 1910. Gyda phartneriaid, rydym yn darparu dwy loches a byw’n annibynnol i bobl ag anableddau dysgu.