A allech chi fod yn aelod Bwrdd nesaf?
Rydym yn chwilio am Aelodau Bwrdd amrywiol, brwdfrydig sydd â ffocws ar y gymuned, sy’n garedig ac yn parchu safbwyntiau pobl eraill.
Os yw hyn yn swnio fel chi, a allech chi fod yn rhan o’n jig-so?
Treuliau yn unig
Ymrwymiad amser: Tua 10 awr bob mis.
Lleoliad: Cyfleoedd gweithio ystwyth gyda phrif swyddfa yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf.
Byddwn ni’n darparu’r offer TG ac yn anfon yr holl wybodaeth yn ddigidol.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10 Awst 2023, 12pm
Ein Gweledigaeth
Bod yn rhan o gymunedau hapus, iach a llewyrchus yn y cymoedd, lle mae gan bawb gyfle i fyw'n dda.
Ein Pwrpas
Darparu cartrefi a chefnogaeth wych i'r bobl sy'n rhan o'n cymunedau.
Am bwy rydym ni'n chwilio?
Rydym yn chwilio am dri unigolyn sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth i gymuned Rhondda Cynon Taf, ac sy'n gallu bod yn rhan o dîm i helpu i arwain ein Grŵp, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i weithredu'n dda mewn cyfnod heriol.
Rydym eisiau i rywun sydd â phrofiad o gyllid a llywodraethu fod yn rhan o'n Pwyllgor Archwilio a Risg. Rydym hefyd yn chwilio am ymgeiswyr eraill sy'n adnabod Rhondda Cynon Taf a'i chymunedau, yn ddelfrydol, ac sy'n gallu gwasanaethu ar un neu'r ddau o'n byrddau is-gwmni, ac sydd felly â diddordeb yn ein Hasiantaeth Gofal a Thrwsio a/neu ein his-gwmni amgylcheddol I Lawr i Sero.
Rydym wedi ymrwymo'n gryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn falch o'n hamgylchedd cynnes a chynhwysol. Hoffem glywed gan bobl ddawnus o gefndiroedd amrywiol, yn enwedig y rhai hynny o grwpiau lleiafrifol, gan gynnwys pobl o liw a chefndiroedd ethnig amrywiol eraill, LHDTRhC+ a phobl ag anableddau.
Nid cynrychiolaeth 'ticio blwch' yw hyn - mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y sgiliau iawn a'r profiad bywyd o amgylch y bwrdd i wneud penderfyniadau da, gwybodus.
Beth yw'r manteision i chi?
Swydd wirfoddol yw hon, felly'r prif fudd yw eich bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil gyda'ch amser, gan wneud defnydd da o'ch profiad, eich arbenigedd a'ch gwybodaeth, ni waeth p'un a ydych ar ddechrau eich bywyd proffesiynol, yn weithiwr proffesiynol sefydledig neu wedi ymddeol.
Os ydych ar ddechrau eich gyrfa, gallwch gael budd ychwanegol yn sgil profiad strategol amhrisiadwy a chyfle i ddatblygu eich gyrfa. Beth bynnag fo'ch sefyllfa, os oes gennych ddiddordeb, siaradwch â ni! Rydym yn cynorthwyo ein haelodau bwrdd i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth y mae arnynt eu hangen trwy hyfforddiant a mentora. Gallwn hefyd eich noddi ar gyfer rhaglenni fel "Menywod yn Arwain y Bwrdd" a rhaglenni Chwarae Teg "Cam i fod yn Gyfarwyddwr Anweithredol" a "Llwybrau i'r Bwrdd".
Cysylltwch â Kath Palmer or Julie Davies am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio.
01443 743201
We are a registered social landlord.
We manage 1850 homes within Rhondda Cynon Taf.
We are passionate about making a positive difference in our local communities.