Trefn Gwyno

Os ydych chi’n anhapus gyda gwasanaeth rydych chi wedi’i dderbyn gan Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni’r hyn a allwn i unioni pethau.

Os byddwch yn cysylltu â ni i roi gwybod am broblem, bydd ein haelodau staff yn gwneud eu gorau i ddatrys eich cwyn yn y fan a’r lle.

Gallwch hefyd godi cwyn ffurfiol os ydych yn teimlo nad ydym wedi datrys eich pryder, neu os hoffech i’r mater gael ei gymryd trwy ein trefn gwyno ffurfiol.

Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â ni a rhoi gwybod i unrhyw aelod o staff yr hoffech wneud cwyn ffurfiol.

  • Defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar ein gwefan, sydd ar gael yma
  • Ffoniwch ni ar 0345 260 2633
  • Anfonwch e-bost atom yn: [email protected]
  • Ysgrifennwch atom yn: Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN

Yna byddwn mewn cysylltiad i ymchwilio a datrys eich pryderon.

Os hoffech gopi o’n Polisi Cwynion, rhowch wybod i ni a byddwn yn darparu hwn i chi. Gallwch hefyd gael mynediad at y polisi yma.

Mae gennych hefyd yr opsiwn i gyflwyno eich cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, byddem yn croesawu’r cyfle i ddatrys eich pryderon yn gyntaf. I gael mynediad at y gwasanaeth hwn: