Beth yw barn tenantiaid am eu cartref?
Yn ddiweddar gwahoddwyd pob tenant i gwblhau arolwg ar-lein am eu boddhad â chyflwr eu heiddo. Ymatebodd 407 o drigolion, gan roi eu barn.
Diolch i bawb a gyfrannodd, mae eich barn yn cael ei chynnwys wrth ddatblygu strategaeth rheoli asedau. Byddwn yn defnyddio’r strategaeth hon i gynllunio sut i gynnal a chadw ein heiddo yn y dyfodol.
Gwyddom fod cynnal a chadw eich cartrefi yn bwysig i’n holl denantiaid, ac roeddem am roi gwybod i chi am ganlyniadau’r arolwg.
Boddhad cyffredinol
Roedd lefel uchel o foddhad gyda’n cartrefi a’n cymdogaethau yn gyffredinol. Ond roedd tenantiaid yn llai tebygol o fod yn fodlon ar ‘ansawdd eu cartref’. Roedd lefelau anfodlonrwydd yn isel ar gyfer pob cwestiwn
Graddfa Agweddau ar Eiddo
Roeddem am ddeall pa agweddau ar gartrefi tenantiaid yr oeddent yn arbennig o hapus neu anhapus â hwy.
Roedd tenantiaid yn fwyaf tebygol o roi sgôr uchel i’r canlynol:
- Mannau mewnol a rennir (er enghraifft, coridorau a chynteddau mewn blociau o fflatiau)
- Trydan
- Gwresogi
- Gerddi Cymunol
Prif bryderon tenantiaid oedd:
- Ffenestri
- Drysau blaen/cefn
- Anwedd
- Gerddi preifat
Roedd tenantiaid yn fwyaf tebygol o fod â phryderon am ffenestri a drysau oherwydd eu bod yn meddwl eu bod yn hen ac yn poeni am ddrafftiau a chost gwresogi’r eiddo o ganlyniad.
Roedd gerddi yn aml yn bryder oherwydd cynllun yr ardd a’r ffaith bod llawer wedi’u hadeiladu i mewn i lethr. Soniwyd hefyd am breifatrwydd, gyda thrigolion yn ffafrio cael waliau neu ffensys uwch nag sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Beth fyddech chi’n ei wella?
Gofynnwyd i denantiaid ddewis un peth yr oeddent am ei wella yn eu cartref. Roedd un rhan o bump (21%) eisiau newid y gegin. Y prif resymau a roddwyd oedd oedran a chyflwr y gegin.
Symud cartref
Dywedodd un o bob chwe thenant eu bod yn ystyried symud tŷ, a byddai’r mwyafrif o’r rhain yn hoffi symud yn y 12 mis nesaf. Fe wnaethom ofyn pam roedd y tenantiaid hyn eisiau symud, ac roedd hyn fel arfer oherwydd eu bod angen eiddo mwy (41%), eisiau bod yn agos at deulu (30%), neu oherwydd nad oeddent yn hoffi’r ardal (25%).
Diolch!
Rydym yn falch o weld cymaint o denantiaid yn hapus gyda’u cartrefi, ond rydym yn cydnabod bod rhai pethau yr hoffai preswylwyr eu gwella. Mae’r data rydych chi wedi’i roi i ni yn yr arolwg hwn yn ein helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer gwaith gwella ar draws ein stoc tai.
Byddwn yn siarad â rhai tenantiaid a gwblhaodd yr arolwg yn fwy manwl am yr hyn y maent wedi’i ddweud, fel y gallwn ddeall eu profiadau yn well. Os byddwch yn derbyn galwad, helpwch ni drwy ateb ein cwestiynau. Os nad yw’n gyfleus, gallwn eich ffonio’n ôl.