Taclo’r ‘ych-a-fi’ i ryddhau pŵer eich ailgylchu gwastraff bwyd
Taclo’r ‘ych-a-fi’ i ryddhau pŵer eich ailgylchu gwastraff bwyd
Efallai mai gwlad fach yw Cymru, ond rydyn ni’n wlad gref wrth ailgylchu. Mae 95% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff yn rheolaidd, rydyn ni eisoes yn drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, a nawr rydyn ni’n gweithio gyda Cymru yn Ailgylchu i gefnogi eu Hymgyrch Gwych i gael Cymru i rif 1.
Dyna pam rydyn ni’n galw ar ein tenantiaid a chymuned ehangach Cynon Taf i roi hwb i’w hymdrechion wrth ailgylchu gwastraff bwyd.
Er bod bron i holl ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eitemau bob dydd fel cardbord, nwyddau ymolchi o’r ystafell ’molchi, a photeli plastig, mae llawer yn parhau i beidio ag ailgylchu eu holl wastraff bwyd. A dweud y gwir, bwyd yw tua chwarter yr hyn sy’n cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol o hyd, a gellid ailgylchu pob tamaid ohono.
Mae pŵer yn ein gwastraff bwyd – mae’r rhan fwyaf o’r gwastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yng Nghymru’n cael ei anfon i gyfleusterau treulio anaerobig, ble caiff ei droi’n ynni gwyrdd. Ailgylchodd trigolion Cymru ddigon i bweru mwy na 10,000 o gartrefi’r llynedd, ond gydag oddeutu 100,000 o dunelli o wastraff bwyd yn cyrraedd y bin sbwriel cyffredinol o hyd – digon i bweru 7,500 yn rhagor o gartrefi – caiff yr ynni adnewyddadwy hwn sy’n brwydro newid hinsawdd ei golli am byth.
Datgelodd ymchwil WRAP Cymru mai’r rhwystr pennaf yw’r elfen ‘ych-a-fi’, gyda’r rhan fwyaf o bobl yn petruso oherwydd y posibiliad o arogleuon, gollyngiadau a llanast. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon ac mae’n lanach na’i roi yn y bin. Caiff cynnwys ein cadis gwastraff bwyd ei gasglu bob wythnos, ac mae ein gwastraff na ellir ei ailgylchu’n cael ei gasglu’n llai aml.
Rydyn ni oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd anochel – fel plisg wyau, esgyrn, bagiau te a chrafion llysiau a ffrwythau – a dylid ei ailgylchu (os nad yw’n cael ei gompostio gartref) i greu ynni gwyrdd i helpu i bweru cymunedau yng Nghymru.
Dyma 5 tip defnyddiol ichi gan Cymru yn Ailgylchu:
1. Defnyddiwch fag leinio cadi – Bydd leinio eich cadi cegin yn cadw’ch gwastraff bwyd yn well, gan helpu i leihau arogleuon a gollyngiadau, a’i atal rhag mynd yn ych-a-fi. Rhowch fagiau leinio mewn cadi glân, sych, a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n ei orlenwi, i osgoi torri’r bag leinio.
2. Osgowch eitemau hylifol – Cadwch hylifau fel llaeth, sudd, neu olew coginio allan o’ch cadi i atal ‘sudd bin’ rhag casglu’n ei waelod. Cewch arllwys symiau bach o’r eitemau hyn i lawr y sinc, yn ddelfrydol ynghyd ag ychydig o ddŵr i sicrhau bod y gwastraff yn llifo i ffwrdd yn hawdd, heb flocio’r draeniau.
3. Gwagiwch eich cadi gwastraff bwyd yn rheolaidd – gwagiwch gynnwys eich cadi cegin i’r bin gwastraff bwyd ar garreg y drws yn rheolaidd, cyn iddo fynd yn orlawn, i atal arogleuon a drewdod. Cofiwch glymu’r bagiau leinio cadi’n dynn cyn eu symud o’ch cadi i’ch bin. Os aiff eich cadi i ddrewi, yna mae’n bryd ichi wagio ei gynnwys i’ch bin gwastraff bwyd ar garreg y drws a dechrau o’r newydd gyda bag leinio newydd.
4. Cadwch gaead arno – Efallai ei fod yn swnio’n amlwg, ond bydd cau caead eich cadi cegin yn atal pryfed rhag mynd iddo, ac yn atal arogleuon rhag dianc. Cofiwch hefyd gau’r caead cloadwy ar eich bin y tu allan yn sownd, i atal pryfetach a phlâu, a diogelu yn erbyn tywydd gwyntog.
5. Cadwch eich cadi’n lân – Glanhewch eich cadi cegin bob ychydig wythnosau. Rhowch rinsiad iddo yn y sinc. I lanhau eich cadi’n fwy trwyadl, gallwch ei ddiheintio gyda dŵr poeth dros ben o’r tegell ac ychydig o hylif golchi llestri.
Os oes gennych lemon dros ben na fydd yn cael ei fwyta fel arall, gallech rwbio ei du mewn yn erbyn tu mewn eich bin. Mae’n ddiaroglydd naturiol a bydd yn helpu i ladd unrhyw germau a allai fod yn llechu yno.
Am ragor o haciau a tips, ac i ddarganfod sut mae eich gwastraff bwyd yn creu ynni, ewch i fwrw golwg ar https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha, ac ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha.
Strategaeth Rheoli Asedau - Adborth o'r Arolwg
Beth yw barn tenantiaid am eu cartref?
Yn ddiweddar gwahoddwyd pob tenant i gwblhau arolwg ar-lein am eu boddhad â chyflwr eu heiddo. Ymatebodd 407 o drigolion, gan roi eu barn.
Diolch i bawb a gyfrannodd, mae eich barn yn cael ei chynnwys wrth ddatblygu strategaeth rheoli asedau. Byddwn yn defnyddio’r strategaeth hon i gynllunio sut i gynnal a chadw ein heiddo yn y dyfodol.
Gwyddom fod cynnal a chadw eich cartrefi yn bwysig i’n holl denantiaid, ac roeddem am roi gwybod i chi am ganlyniadau’r arolwg.
Boddhad cyffredinol
Roedd lefel uchel o foddhad gyda’n cartrefi a’n cymdogaethau yn gyffredinol. Ond roedd tenantiaid yn llai tebygol o fod yn fodlon ar ‘ansawdd eu cartref’. Roedd lefelau anfodlonrwydd yn isel ar gyfer pob cwestiwn
Graddfa Agweddau ar Eiddo
Roeddem am ddeall pa agweddau ar gartrefi tenantiaid yr oeddent yn arbennig o hapus neu anhapus â hwy.
Roedd tenantiaid yn fwyaf tebygol o roi sgôr uchel i’r canlynol:
- Mannau mewnol a rennir (er enghraifft, coridorau a chynteddau mewn blociau o fflatiau)
- Trydan
- Gwresogi
- Gerddi Cymunol
Prif bryderon tenantiaid oedd:
- Ffenestri
- Drysau blaen/cefn
- Anwedd
- Gerddi preifat
Roedd tenantiaid yn fwyaf tebygol o fod â phryderon am ffenestri a drysau oherwydd eu bod yn meddwl eu bod yn hen ac yn poeni am ddrafftiau a chost gwresogi’r eiddo o ganlyniad.
Roedd gerddi yn aml yn bryder oherwydd cynllun yr ardd a’r ffaith bod llawer wedi’u hadeiladu i mewn i lethr. Soniwyd hefyd am breifatrwydd, gyda thrigolion yn ffafrio cael waliau neu ffensys uwch nag sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Beth fyddech chi’n ei wella?
Gofynnwyd i denantiaid ddewis un peth yr oeddent am ei wella yn eu cartref. Roedd un rhan o bump (21%) eisiau newid y gegin. Y prif resymau a roddwyd oedd oedran a chyflwr y gegin.
Symud cartref
Dywedodd un o bob chwe thenant eu bod yn ystyried symud tŷ, a byddai’r mwyafrif o’r rhain yn hoffi symud yn y 12 mis nesaf. Fe wnaethom ofyn pam roedd y tenantiaid hyn eisiau symud, ac roedd hyn fel arfer oherwydd eu bod angen eiddo mwy (41%), eisiau bod yn agos at deulu (30%), neu oherwydd nad oeddent yn hoffi’r ardal (25%).
Diolch!
Rydym yn falch o weld cymaint o denantiaid yn hapus gyda’u cartrefi, ond rydym yn cydnabod bod rhai pethau yr hoffai preswylwyr eu gwella. Mae’r data rydych chi wedi’i roi i ni yn yr arolwg hwn yn ein helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer gwaith gwella ar draws ein stoc tai.
Byddwn yn siarad â rhai tenantiaid a gwblhaodd yr arolwg yn fwy manwl am yr hyn y maent wedi’i ddweud, fel y gallwn ddeall eu profiadau yn well. Os byddwch yn derbyn galwad, helpwch ni drwy ateb ein cwestiynau. Os nad yw’n gyfleus, gallwn eich ffonio’n ôl.