Mae’r landlord cymdeithasol Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf (CTCHG) wedi cwblhau ei gynllun tai fforddiadwy newydd yn Rhondda mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf. Mae’r cynllun wedi defnyddio cyllid Grant Tai Cymdeithasol a fydd yn darparu 12 o gartrefi mawr eu hangen ym Mhenygraig.

Mae Clos Graig Wen yn eistedd ar safle hen Ysgol Fabanod Penygraig, gyda’r cynllun newydd yn cynnwys dau eiddo wedi’u haddasu gan gynnwys byngalo a 10 fflat: wyth un ystafell wely a dwy ystafell wely. Datblygwyd y safle gan gwmni adeiladu ASD Build o Dreforstown ac mae’r eiddo’n cynnwys paneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer i ddarparu cartrefi ynni effeithlon gyda llai o gostau cyfleustodau.

Croesawodd CTCHG y Cynghorwyr Lisa Ellis a Gareth Hughes, sy’n gwasanaethu wardiau Penygraig a Tonypandy yn y drefn honno, i Clos Graig Wen i ddangos y cartrefi gorffenedig iddynt ac i dynnu sylw at y gwaith partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â’r gwasanaethau sydd ar gael i’r tenantiaid drwy’r sefydliad.

Cruydd Llun: Huw John Photography, Caerdydd

Dywedodd Auriol Miller, Prif Weithredwr Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf, “Mae’n wych gweld Clos Graig Wen yn dod i ben ac yn cynnig cartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni sydd nid yn unig yn darparu rhywle diogel a chynnes i’n tenantiaid fyw, ond sydd hefyd yn anelu at leihau effaith tlodi tanwydd yn ein cymunedau lleol.

“Roeddem yn falch iawn o groesawu’r Cynghorwyr Ellis a Hughes i’r cynllun fel y gallent weld y cartrefi gorffenedig, a thenantiaid yn symud i mewn. Mae ein partneriaeth barhaus gyda’r Cyngor yn hanfodol er mwyn sicrhau, fel landlord, y gallwn ddarparu cartrefi yn yr ardaloedd y mae eu hangen fwyaf.”

Mae’r cynllun hwn yn gweld CTCHG gyda bron i 2,000 eiddo ar draws cymoedd Cynon a Thaf, gan sicrhau bod gan bobl leol fynediad at gartrefi fforddiadwy o safon lle gallant ffynnu.

Dywedodd Gareth Hughes, cynghorydd ward Tonypandy, “Roedd yn wych cael fy dangos o amgylch y cartrefi newydd mawr eu hangen sydd wedi’u datblygu ar hen safle Ysgol Fabanod Penygraig. Mae ansawdd a gorffeniad y cartrefi yn eithriadol ac mae’n dda gwybod y bydd trigolion y dyfodol yn elwa o’r ynni a gynhyrchir gan baneli solar. Rwy’n dymuno dyfodol hapus iawn i’r holl breswylwyr.”

Ychwanegodd Lisa Ellis, cynghorydd ward Penygraig, “Rwy’n credu bod y datblygiad newydd yn ychwanegiad gwych i’n cymuned. Mae’r cartrefi yn eang a byddant yn rhoi cyfle i bobl leol aros yn yr ardal, yn ogystal â lle diogel i ffynnu. Diolch yn fawr iawn i Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf ac ASD Build.”

New homes with cream exteriors, two black front doors, windows showing ground floor and first floor, as well as the view over the Rhonnda valley.
Cruydd Llun: Huw John Photography, Caerdydd

Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod Cabinet dros Ffyniant a Datblygiad yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, “Bydd y cartrefi newydd a ddarperir gan Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf yn ychwanegiad i’r ardal leol sydd yn cael ei groesawu’n fawr. Mae galw cynyddol am eiddo un ystafell wely ac addasedig, a bydd y rhain yn helpu i’w bodloni.

“Bydd y ffaith bod yr eiddo hyn yn effeithlon o ran ynni yn darparu buddion tymor hwy i’r rhai sy’n byw ynddynt o filiau ynni is, yn ogystal â helpu i leihau allyriadau carbon.

“Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid fel Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf i sicrhau bod gan ein preswylwyr fynediad i gartrefi o safon mewn lleoliadau sy’n caniatáu i bobl gael mynediad i gyfleoedd gwaith a hamdden.”

Mae gan Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf ddau safle arall sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd, gan gynnwys un ar safle hen Ysgol Gynradd y Porth. Bydd y datblygiad hwn, sy’n bartneriaeth ASD Build arall, yn gweld 15 o gartrefi yn cael eu hadeiladu: chwe thŷ dwy ystafell wely a naw fflat un ystafell wely, a fydd yn cael eu cwblhau yn Haf 2025.

Mae’r datblygiad arall ar hen safle peirianneg yn Hirwaun, gyda 21 o gartrefi yn cael eu datblygu gan Pendragon Design and Build, i’w gwblhau ddiwedd 2025.