Ein Llywodraethiant
Gwneir yr holl benderfyniadau strategol i Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf gan Fwrdd y Grŵp, a fydd yn ystyried adroddiadau ac argymhellion a gyflwynir iddynt gan swyddogion sy’n cael eu cyflogi gan y sefydliad ac ymgynghorwyr annibynnol.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys 12 aelod, y mae traean ohonynt wedi’u neilltuo i denantiaid. Datblygwyd system is-bwyllgorau i ganiatáu am graffu’n drylwyr ar feysydd penodol y mae’r Bwrdd yn eu dirprwyo i’r priod bwyllgor. Yna, mae’r pwyllgorau’n cyflwyno cynigion i’r Bwrdd ar ôl ystyried y pwnc yn drylwyr.
Mae pob pwyllgor yn cynnwys tri Aelod Bwrdd, y mae traean ohonynt wedi’u neilltuo i denant-gynrychiolwyr.
Mae Grŵp y Bwrdd yn gyfrifol yn gyffredinol hefyd am ein dau is-gwmni – Gofal a Thrwsio Cwm Taf a Down to Zero.