Beth mae fy rhent yn ei gynnwys?
Mae’r rhent a dalwch yn ein helpu i wneud yn siŵr bod eich cartref yn ddiogel a’n bod yn gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau a chymorth tenantiaeth i chi. Mae eich rhent yn talu am gynnal a chadw eich cartref, mae hefyd yn ein helpu i gynllunio gwaith fel gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd.
Oeddech chi’n gwybod bod ein rhent wedi’i osod o fewn gofynion Llywodraeth Cymru? Mae’n golygu ein bod yn cydbwyso gwerth am arian â fforddiadwyedd, gan wneud yn siŵr ein bod yn gallu cyflawni gofynion cyfreithiol fel landlord cymdeithasol, ond hefyd yr hyn sy’n gweithio, y gwasanaethau a’r cymorth y bydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Rydym hefyd yn defnyddio eich rhent i adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy, ynni-effeithlon yn Rhondda Cynon Taf.
Ein Cartrefi
Mae gan ein cartrefi y cyfansoddiad canlynol:
1458 Anghenion Cyffredinol
165 Tai Gwarchod
31 Cartrefi wedi'u Haddasu
114 Cartrefi Pobl Hŷn
81 Tai â Chymorth
1 Ystafell wely
2 Ystafelloedd gwely
3 Ystafelloedd gwely
4 Ystafelloedd gwely
5 Ystafelloedd gwely
7+ Ystafelloedd gwely
Our Homes
Mae gan ein cartrefi y cyfansoddiad canlynol:
1458 Anghenion Cyffredinol
165 Tai Gwarchod
31 Cartrefi wedi'u Haddasu
114 Cartrefi Pobl Hŷn
81 Tai â Chymorth
1 Ystafell wely
2 Ystafelloedd gwely
3 Ystafelloedd gwely
4 Ystafelloedd gwely
5 Ystafelloedd gwely
7+ Ystafelloedd gwely
Beth yw tâl gwasanaeth?
Bydd rhai ohonoch hefyd yn talu tâl gwasanaeth. Mae hyn ar gyfer gwasanaethau penodol yr ydych yn eu derbyn ac fel arfer mae lle mae ardaloedd cymunedol megis cynnal a chadw tir, glanhau, goleuo, offer tân a chynnal a chadw lifftiau neu addasiadau. Rydym yn cyfrifo hyn drwy ddefnyddio costau gwirioneddol y gwasanaeth o’r flwyddyn flaenorol. Mae rhai taliadau gwasanaeth yn gymwys ar gyfer Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol. Byddwn yn esbonio’r costau hyn i chi bob blwyddyn a bydd eich swyddog tai yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.