Dweud Eich Dweud
Bob blwyddyn, rydym yn adolygu ein rhenti a sut rydym yn sicrhau ein bod yn gwario’r arian hwnnw ar bethau y mae ein tenantiaid a’n cymunedau eu hangen mewn gwirionedd. Dyna pam rydym yn gofyn i chi ddweud eich dweud, gan y bydd eich barn yn helpu i siapio’r hyn sydd i ddod dros y flwyddyn nesaf ac i’r dyfodol.
Gwyddom fod yr argyfwng costau byw yn parhau i gael effaith aruthrol ar gynifer ohonom ac mae ein Harolwg Dweud Eich Dweud yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu helpu i’ch cefnogi ym mha bynnag ffordd bosibl. Gallech hefyd fod â’r siawns o ennill taleb Amazon gwerth £25 drwy rannu eich barn.
Felly pam rydyn ni’n gwneud hyn nawr?
Oeddech chi’n gwybod bod rhenti’n cael eu rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru? Mae’n golygu eu bod yn cyhoeddi canllawiau bob blwyddyn ar lefel y codiad rhent y byddant yn ei ganiatáu a hefyd, yr hyn y maent yn ei ddisgwyl gan landlordiaid fel ni i’w ystyried wrth osod ein rhenti ar gyfer y flwyddyn i ddod gan gynnwys fforddiadwyedd i’n tenantiaid a’n cymunedau. Eleni, dywedasant wrthym mai’r cynnydd mwyaf y byddant yn ei ganiatáu yw 6.5% sy’n llawer is na chwyddiant. Mae’n rhaid i ni nawr gydbwyso cynnydd gyda’ch anghenion – a dyna pam rydyn ni’n gofyn i chi Dweud Eich Dweud – yn ogystal â chostau rhedeg ein busnes, darparu gwasanaethau a chynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Gwyddom fod y penderfyniadau a wnawn am eich rhent, a sut yr ydym yn gwario’r arian a gasglwn, yn hynod o bwysig, yn enwedig gan fod pethau’n parhau i fod ychydig yn ansicr. Rydym am i chi ddweud eich dweud a dylanwadu ar y penderfyniadau a wnawn.
Pethau y mae angen inni eu hystyried
Wrth osod ein rhent, rydym yn ystyried nifer o ffactorau sydd wedi cael effaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, pethau fel cynnydd mewn prisiau tanwydd neu gostau deunyddiau adeiladu. Mae’n rhaid i’r holl bethau hyn gynnwys yr arian a dderbynnir, tra hefyd yn sicrhau bod gennych chi gartrefi fforddiadwy o gynnes sy’n saff a diogel, fel y gallwch barhau i fyw eich bywyd. Mae’n ymwneud â’r buddsoddiad y gallwn ei wneud yn ein gwasanaethau fel bod gennych y gwasanaethau cywir yn y meysydd cywir, ar yr adeg gywir ar gyfer y bobl gywir. Rydyn ni wir eisiau i chi allu dod o hyd i’ch potensial – beth bynnag yw hwnnw.
Fodd bynnag, rydym hefyd yn awr yn canolbwyntio ar leihau ein hôl troed carbon a’n heffaith ar yr amgylchedd; dyna pam yr ydym yn gweithio i wella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi presennol a hefyd, adeiladu cartrefi sydd felly o’r tro cyntaf i ni (neu chi) agor y drws ffrynt.
Cymerwch ein Harolwg Dweud Eich Dweud a chael y cyfle hwnnw i ennill taleb Amazon gwerth £25
Ein polisi rhent fforddiadwy
Ein nod yw sicrhau bod ein rhenti yn rhoi gwerth am arian, tra’n cydbwyso fforddiadwyedd ar gyfer y rhenti a’r taliadau gwasanaeth sy’n cael eu talu gan ein tenantiaid, ynghyd â gwneud yn siŵr ein bod ni fel landlord yn gallu cynnal ein dyletswyddau yn y tymor hir. Mae’r polisi hwn hefyd yn helpu i gefnogi ein huchelgais corfforaethol i adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy o gynnes ac ynni-effeithlon.
Mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod ein rhenti a’n taliadau gwasanaeth o fewn cyrraedd y rheini sydd mewn swyddi â chyflogau is ac yn bodloni’r diffiniad o ddarparu Rhent Byw. Rydym yn dal i weithio tuag at y dull hwn gyda’r nod o sicrhau na fydd ein rhenti yn fwy na 28% o enillion cyfartalog y gweithle yn ein cymunedau.