Nant y Glo, Treorchi

Rydym am rannu gyda chi un o’n datblygiadau newydd sy’n darparu cartrefi fforddiadwy i’n cymuned. Cafodd ei chefnogi gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Strategaeth Dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Beth mae'r cynllun newydd yn ei gynnwys?

Mae Nant y Glo yn gynllun tai fforddiadwy sy’n cynnwys cartref tair ystafell wely, ynghyd â chwe chartref dwy ystafell wely, a fydd yn rhoi cyfle i saith teulu ffynnu mewn eiddo newydd sbon, sy’n effeithlon o ran ynni, yn ddiogel ac yn fforddiadwy.

Adeiladwyd y cynllun mewn partneriaeth â Willis Construction.

Tai â Chymorth yn Nant y Glo

Mae gan Nant y Glo hefyd dai â chymorth ar ffurf chwe fflat, a fydd yn golygu y byddwn ni, ochr yn ochr â’n partneriaid Adferiad Recovery, yn gallu cynnig i bump o bobl sy’n byw mewn lleoliad meddygol yn bennaf symud yn ôl i’r gymuned ac mewn llety parhaol. gyda’r holl gefnogaeth a gofal y bydd eu hangen arnynt i symud ymlaen â’u bywydau a ffynnu.