Mae’r consortiwm yn gydweithrediad rhwng saith o gymdeithasau tai Cymreig, gyda phob un ohonom yn cyfuno ein hadnoddau, arbenigedd a phrofiad i wella safon ac effeithiolrwydd prosiectau fel y gallwn ni gyd barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol yn ein cymunedau.

Dyma’r cymdeithasau sy’n rhan o’r consortiwm:

  • Cymdeithas Tai Newydd
  • Cymdeithas Tai Cadwyn
  • Cymdeithas Tai First Choice
  • Cymdeithas Tai Merthyr Tudful
  • Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf
  • RHA Wales Group Ltd
  • Cymdeithas Tai Caredig

Fel LCCau (landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) cymunedol o’r un meddylfryd, rydym oll yn rhannu gwerthoedd a nodau cyffredin, ond rydym hefyd yn rhannu heriau tebyg pan ddaw hi i feysydd allweddol fel caffael, iechyd a diogelwch, asedau a’r gyfraith, yn ogystal â chysondeb yn y ffordd yr ydym yn cyfathrebu gyda’n cymunedau gan ein bod yn rhannu nid yn unig siroedd, ond hefyd weithiau strydoedd.

Gyda Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016 (RHWA) Llywodraeth Cymru yn dod i rym ym mis Tachwedd 2022, fe wnaethom nodi’r buddion o gydweithredu mewn medru cyfathrebu’r newidiadau i’r cytundebau gyda staff a thenantiaid yn y ffordd gywir ar yr amser cywir.

Gyda’n gilydd, fe wnaethom ni gynhyrchu cytundeb consortiwm gyda Chyfreithwyr Blake Morgan, a ddarparodd y gwasanaethau cyfreithiol arbenigol oedd eu hangen i weithredu’r ddeddf newydd ledled ein sefydliadau a’n cymunedau. Roedd y cytundeb yn cynnwys drafftio’r cytundebau meddiannaeth newydd, hyfforddiant staff a chyngor ar ofynion unigol. Sicrhaodd y dull hwn bod ein holl staff yn medru gofyn cwestiynau i’r arbenigwyr cyfreithiol ar beth mae’r ddeddf yn ei olygu i feysydd arbenigol megis tai â chymorth, yn ogystal â deall sut mae’r ddeddfwriaeth newydd wedi rhoi hawliau ehangach i denantiaid.

Rydym hefyd yn rhannu Rheolwr Prosiect, sy’n gweithio o swyddfa Cynon Taf, ac sydd wedi cefnogi’r consortiwm drwy:

  • Reoli’r cytundeb gyda Blake Morgan a sicrhau cydgysylltu ar y gwariant ar wasanaethau cyfreithiol, a’n bod yn cael gwerth am arian.
  • Cydgysylltu’r ffordd y caiff gwybodaeth ac arferion gorau eu rhannu ledled y Consortiwm drwy drefnu a chadeirio cyfarfodydd arweinwyr arbenigol a rheoli prosiectau arweinwyr.
  • Sefydlwyd nifer o grwpiau arbenigol er mwyn cefnogi’r newidiadau perthnasol:
    • Grŵp Llywio
    • Tai
    • Atgyweiriadau a Rheoli Asedau
    • Tai â Chymorth
    • TG
    • Cyfathrebu

Beth rydym wedi’i gyflawni hyd yma…

Gweithredwyd Deddf Rhentu Cartrefi Cymru yn llwyddiannus ledled ein sefydliadau diolch i waith caled y timau yn y saith LCC, ond hefyd oherwydd y rheoli prosiect a rennir, y cynllun gweithredu cynhwysol, a rheolaeth effeithiol o risgiau a ddarparwyd drwy’r consortiwm. Drwy rannu adnoddau a chostau, sicrhawyd bod ein holl bolisïau a phrosesau yn adlewyrchu’r newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Drwy rannu cyngor cyfreithiol ar reoli tai, yn ogystal â’r goblygiadau newydd ar ffitrwydd i fod yn gartref, fe wnaeth hyn olygu bod y saith sefydliad yn rhannu dull cyffredin a chyson, a bod pob un o’n timau sy’n gysylltiedig â hyn yn gwybod ac yn deall sut i reoli’r heriau a ddaw o ganlyniad i gyflwyno’r Ddeddf.

Fe wnaethom hefyd sicrhau ein bod ni, drwy gydol y paratoadau ar gyfer gweithredu’r Ddeddf, yn ogystal â’r misoedd sydd wedi dilyn, wedi medru rhannu adnoddau cyfathrebu – h.y. medru cyrchu adnoddau megis dylunio graffeg ac ysgrifennu cynnwys, yn ogystal â deilliannau strategol – er mwyn darparu gwybodaeth gyson i’n cymunedau ar beth mae’r Ddeddf newydd yn ei olygu iddyn nhw.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae llwyddiant y consortiwm wrth ddarparu’r Ddeddf Rhentu Tai Cymru wedi arwain at estyn y cydweithrediad am y dyfodol rhagweladwy – prawf o’r gwaith mae pawb oedd ynghlwm â’r consortiwm wedi’i wneud i sicrhau ei fod yn llwyddiant. Mae hyn hefyd wedi dangos y gwahaniaeth mae gweithio mewn partneriaeth yn medru ei gael pan ddaw hi i feysydd busnes allweddol a darparu arferion gorau.

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio ar brosiectau sy’n cynnwys:

  • Buddsoddi mewn ymgyrchoedd cyfathrebu a fydd yn cefnogi ein cymunedau gyda:
    • Mynd i’r afael â thamprwydd, mowld a chyddwysiad
    • Yr argyfwng costau byw ar hyn o bryd
    • Cynhesrwydd fforddiadwy
    • Deall datgarboneiddio
  • Ystyried caffael gwasanaethau cyfreithiol ar y cyd

Byddwn hefyd yn parhau i rannu adnoddau, sgiliau, profiad, gwybodaeth perfformiad a meincnodi, yn ogystal ag arferion gorau.